Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (32)v3 |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty (45 munud) |
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud)
|
Cwestiwn Brys 1 (10 munud)
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd yn dilyn marwolaeth dau faban o ganlyniad i haint E. coli yn Abertawe? |
Cwestiwn Brys 2 (10 munud)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn y cyhoeddiad y bydd gorsaf gwylwyr y glannau Abertawe yn cau? |
3. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4858 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod:
a) buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth yn angenrheidiol er mwyn cyflawni twf economaidd ledled Cymru;
b) Maes Awyr Caerdydd, ein porth rhyngwladol, yn methu marchnata Cymru yn effeithiol nac ymestyn ei lwybrau hedfan a bod angen cefnogaeth ac arweinyddiaeth arno ar frys gan Lywodraeth Cymru; ac
c) nad oes gan Lywodraeth Cymru weledigaeth nac uchelgais ar gyfer creu rhwydwaith trafnidiaeth sydd gyda’r gorau yn y byd.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) lunio rhaglen farchnata i ddenu’r sector hedfan i Gymru ac adolygu a buddsoddi mewn mynediad cyhoeddus i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd;
b) adolygu’r gorsafoedd gwasanaeth a’r mannau aros i lorïau sydd ar hyd y prif ffyrdd ar draws Cymru ar hyn o bryd a rhoi manylion rhaglen fuddsoddi; ac
c) adolygu ac ailasesu defnyddio rhaglenni cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiectau seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu is-bwynt 1b) a rhoi yn ei le:
bod pryderon fod angen cynyddu effaith economaidd Maes Awyr Caerdydd a datblygu llwybrau awyr newydd, a bod Llywodraeth Cymru felly yn gweithio gyda’r perchnogion i ysgogi rhagor o weithgarwch busnes a gwella’r cysylltiadau rhyngwladol.
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu is-bwynt 1c).
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 2a) cyn ‘lunio’ rhoi:
‘Gweithio gyda pherchnogion Maes Awyr Caerdydd i’
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
b) Parhau i ymgyrchu dros ddatganoli Toll Teithwyr Awyr i Gymru;
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddechrau gweithio ar gynllun cyflenwi ar gyfer trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu’r cymhorthdal i’r cyswllt hedfan rhwng y De a’r Gogledd ar y cyfle cyntaf ac i ddiystyru rhoi cymhorthdal i gwmnïau hedfan ychwanegol.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd rhan mewn deialog gyda Network Rail a gweithredwyr cludiant cyhoeddus i wella cysylltiadau ar draws y ffin rhwng Gogledd Cymru a Meysydd Awyr Manceinion a Lerpwl.
Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi gwaith parhaus Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru i lunio achos busnes dros drydaneiddio’r brif reilffordd cyn belled ag Abertawe.
|
4. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM4860 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y rhan hanfodol y mae nyrsys, gan gynnwys nyrsys arbenigol, yn ei chwarae yn y GIG.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gynnal y cynllun bwrsariaeth nyrsio fel y mae’n cael ei weithredu ar hyn o bryd;
b) sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus yn y proffesiwn nyrsio; ac
c) datblygu rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu is-bwynt 2a) a rhoi yn ei le:
sicrhau bod egwyddorion cydraddoldeb a thegwch wedi’u dilyn wrth newid y cynllun bwrsariaeth ar gyfer nyrsys.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: ‘diffinio a datblygu swyddogaeth Nyrsys Presgripsiynu yng Nghymru’.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Gorgannwg)
Dileu is-bwynt 2c) a rhoi yn ei le:
sicrhau bod y BILlau yn cynllunio ac yn cynnal rhwydwaith digonol o nyrsys arbenigol.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
‘gwella diogelwch a gwella’r amgylchedd gweithio diogel i nyrsys.’
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
sicrhau bod pob nyrs yn gallu cael gafael ar yr hyfforddiant angenrheidiol er mwyn gallu bod yn gwbl effeithiol yn eu swyddogaeth.
|
5. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM4859 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod:
a) oddeutu 26,000 o gartrefi gwag preifat yng Nghymru ar hyn o bryd;
b) cartrefi gwag yn achosi melltith gymdeithasol ac amgylcheddol ar gymunedau lleol;
c) mwy o alw am dai cymdeithasol yng Nghymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth cartrefi gwag sy’n cynnwys:
a) cymorth i gynghorau a chymdeithasau tai ddefnyddio cartrefi gwag fel tai cymdeithasol;
b) caniatáu i gynghorau gael mwy o hyblygrwydd i osod cyfraddau’r dreth gyngor cosbedigol ar gartrefi sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir er mwyn annog perchnogion i’w hailddefnyddio ac i wneud iawn i gymunedau am y felltith maent yn ei hachosi’n lleol;
c) cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i leihau cyfradd TAW ar waith atgyweirio a gwella ar adeiladau sydd eisoes yn bodoli;
d) archwilio'r posibilrwydd o ddarparu benthyciadau rhad i berchnogion i’w hannog i ailddatblygu cartrefi gwag fel tai fforddiadwy i’w gosod ar rent.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Yn is-bwynt 2a) dileu ‘tai cymdeithasol’ a rhoi yn ei le ‘tai ar gyfer rhent canolradd a chymdeithasol;’
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu ar ddiwedd is-bwynt 2b) ond mae hynny’n golygu bod angen delio â sefyllfaoedd ystadau sydd mewn profedigaeth yn sensitif;
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Yn is-bwynt 2c), dileu popeth ar ôl ‘Lywodraeth y DU’ a rhoi yn ei le ‘i ymgymryd â dadansoddiad cost a budd ynghylch effaith economaidd gostwng cyfradd TAW ar waith atgyweirio a gwella ar adeiladau sydd eisoes yn bodoli;’
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
‘darpariaeth y dylai unrhyw gamau gorfodi fod yn gam olaf.'
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
‘datblygu ym mhob sir gronfa ddata o gartrefi sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir.’
Gwelliant 6 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
‘cyhoeddi targedau ar gyfer nifer y cartrefi sydd yn dod yn ôl i gael eu defnyddio bob blwyddyn.’
|
Cyfnod Pleidleisio |
6. Dadl Fer (30 munud)
NDM4861 Janet Finch-Saunders (Aberconwy):
Siarter i Wyrion
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mawrth, 29 Tachwedd 2011